/Trawsgrifiadau o lythyrau Thomas Stephens ar gael ar lein
Trawsgrifiadau o lythyrau Thomas Stephens ar gael ar lein 2018-01-29T07:50:20+00:00

Project Description

Trawsgrifiadau o lythyrau Thomas Stephens ar gael ar lein

Dr Marion Löffler gyda’r pedair cyfrol o ohebiaeth

Mae’r tîm y tu ôl i brosiect ymchwil a gaiff ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar Thomas Stephens o Ferthyr Tudful wedi trefnu bod dros 400 o lythyrau a anfonwyd at y Fferyllydd a’r ysgolhaig hunan-ddysgedig, a daniodd chwyldro mewn dysgeidiaeth hanesyddol Gymreig, ar gael i’r cyhoedd ar lein.

Er mis Tachwedd 2014, bu Dr Löffler yn arwain prosiect ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru o’r enw Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol: Dysg Ewropeaidd a’r Chwyldro yn Ysgolheictod Cymru Oes Fictoria. Gan ymchwilio i sut y trosglwyddid gwybodaeth Ewropeaidd i Ferthyr Tudful yn y 1840au a’r 1850au, mae’r prosiect wedi archwilio effaith nawdd elit lleol a rôl y dosbarth canol is yn y broses o foderneiddio Cymru a’i dysg, yn ogystal â chanolbwyntio ar fywyd, oes a chysylltiadau Ewropeaidd yr hanesydd a’r diwygiwr cymdeithasol Thomas Stephens.

Rhoddwyd archif helaeth Thomas Stephens i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1916, ac mae’r rhan fwyaf o’r llythyrau a anfonwyd ato wedi’u rhwymo mewn pedair cyfrol fawr. Gwefan y Llyfrgell felly yw cartref naturiol y llythyrau a anfonwyd i Gymru o bedwar ban byd: America, Awstralia, Lloegr, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, yr Alban a’r Swistir, ond sydd wedi cael cartref parhaol ers tro byd yn Aberystwyth.

Ymhlith y gohebwyr Cymreig enwog mae’r Fonesig Charlotte Guest, Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), Walter Davies (Gwallter Mechain), Harry Longueville Jones, Thomas Price (Carnhuanawc) a’r geiriadurwr D. Silvan Evans. Roedd pynciau’r trafodaethau a allai fod yn danllyd yn cynnwys cystadlaethau a beirniadaethau eisteddfodol, y berthynas rhwng gweithwyr a meistri haearn Merthyr, diwygiadau’r orgraff Gymraeg a ddechreuwyd ym 1858, cantorion yr Arglwyddes Llanofer, derwyddiaeth, ac wrth gwrs gwaith a chyhoeddiadau Thomas Stephens ei hun.

Nod y tîm yw sicrhau cydnabyddiaeth i ymdrechion Thomas Stephens ar ran ei gymuned ym Merthyr Tudful i foderneiddio diwylliant Cymru a chwyldroi ysgolheictod Cymraeg, ac mae Dr Marion Löffler a Dr Adam Coward wedi penderfynu gosod cynnyrch cyntaf eu hymchwil ar-lein er mwyn iddo fod ar gael am ddim i’r cyhoedd.

Dywedodd arweinydd y prosiect Dr Marion Löffler:

“Mae’r llythyrau hyn yn dangos nad oedd de Cymru ar yr ymylon, ond yng nghanol rhwydweithiau a chysylltiadau gohebiaeth byd-eang. Byddai Cymry alltud yn ysgrifennu o America ac Awstralia, byddai hynafiaethwyr o Iwerddon a Chymru’n ceisio atebion i gwestiynau am gromlechi ac arysgrifau Celtaidd, a byddai ysgolheigion Celtaidd rhyngwladol fel Adolphe Pictet a Hersart de la Villemarqué yn gohebu ar ddehongli enwau afonydd Celtaidd a ffigurau chwedlonol fel Hu Gadarn. Ymhlith y llythyrau rhyfeddaf a anfonwyd at Stephens mae rhai gan William Wilde, tad Oscar Wilde, a gyfunodd ei waith fel arbenigwr nodedig ar y llygaid â diddordebau hynafiaethol.  Gohebodd â Stephens am enw a natur ‘y fad felen’ a ysgubodd drwy Ynysoedd Prydain yn y chweched ganrif OC.”

Os oes gennych chi ddiddordeb ym Merthyr Tudful, Cymru neu ysgolheictod Celtaidd Ewropeaidd, dylai’r pedair cyfrol o ohebiaeth fod yn ddarllen difyr.

Gallwch gyrchu’r llythyrau drwy’r dolenni isod:
https://archives.library.wales/index.php/letters-534
https://archives.library.wales/index.php/letters-889

Ddydd Mercher 9 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar Ynys Môn, bydd Dr Marion Löffler yn traddodi darlith Cymdeithas Carnhuanawc. Y teitl fydd Thomas Stephens a Chymreigyddion Y Fenni, ac fe’i cynhelir am hanner dydd ym Mhabell y Cymdeithasau 1. Estynnir croeso cynnes i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil, ewch i wefan y Ganolfan.