/Pontydd Cyfieithu: Cyfieithu’n Cysylltu’r Cenhedloedd
Pontydd Cyfieithu: Cyfieithu’n Cysylltu’r Cenhedloedd 2018-01-29T07:50:22+00:00

Project Description

Pontydd Cyfieithu: Cyfieithu’n Cysylltu’r Cenhedloedd

Ar 19 Ionawr cynhaliwyd cynhadledd ar gyfieithu i’r Dyniaethau ac mewn Llenyddiaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Trefnwyd cynhadledd Gymraeg Pontydd Cyfieithu gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chanolfan Cyfieithu Diwylliannol Prifysgol Aberystwyth, gyda nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Nod y diwrnod oedd dod ag awduron, cyfieithwyr ac academyddion ynghyd i drafod eu gwaith cyfieithu eu hunain ac ymchwil ar gyfieithu ar draws nifer o ddisgyblaethau, gan gynnwys prosiectau yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Canolfan Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol a Phrifysgol Marburg yn yr Almaen.

Gyda golwg ar ddenu myfyrwyr ac ymchwilwyr ym meysydd Hanes, Gwleidyddiaeth, Ieithyddiaeth, Llenyddiaeth a’r Theatr, yn ogystal â chyfieithwyr, roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau oedd yn canolbwyntio ar ddau ffocws – yr academaidd a’r llenyddol.

Roedd sesiynau’r bore’n canolbwyntio ar ochr academaidd cyfieithu, gan amlygu cronfeydd data diweddar o gyfieithiadau fydd yn galluogi ymchwilwyr y dyfodol i gyrchu testunau o’r gorffennol, yr heriau mae cyfieithu yn eu gosod i’r Gymraeg ac ieithoedd bach eraill, a gwerth testunau wedi’u cyfieithu i’r hanesydd. Roedd y prynhawn yn cynnwys awduron a beirdd o Gymru, a fu’n trafod cyfieithu eu gwaith eu hunain, a gwaith awduron eraill, er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac adeiladu pontydd at ddiwylliannau eraill, a’r heriau a’r ystyriaeth ddiwylliannol sy’n wynebu awduron wrth gyfieithu.

Roedd siaradwyr unigol ar y dydd yn cynnwys yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, a siaradodd am her cyfieithu gweithiau allweddol i’r Gymraeg ac i ieithoedd llai a Dr Marion Löffler, a draddododd ddarlith ar Gyfieithiadau o’r ‘Marseillaise’ yng Nghymru 1796–1914. Bu Dr Eurig Salisbury a Ned Thomas yn trafod safbwyntiau a phrofiadau cyfieithu gyda Sioned Puw Rowlands, a bu panel yn cynnwys Manon Steffan Ros, Siân Northey, Guto Dafydd a George Jones yn trafod ‘Y Llenor, y Cyfieithydd, a Chyfieithu Llenyddol’ gyda Mari Siôn o Gyfnewidfa Lên Cymru.

Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd Dr Marion Löffler, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau, a chyd-drefnydd y gynhadledd:

“Bu’n ddiwrnod rhagorol o drafodaethau academaidd ynghyd â gwrando ar farddoniaeth a nofelau mewn mwy na dwy iaith, a dysgu sut mae diwylliannau sydd mor bell oddi wrth ei gilydd â Chymru a’r India’n gallu cysylltu drwy gyfieithu. Rwyf i’n arbennig o falch ein bod wedi gallu gwahodd Dr Elena Parina o Brifysgol Marburg yn yr Almaen. I lawer o gyfranogwyr, dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw glywed siaradwr Rwsieg brodorol yn cyflwyno papur yn Gymraeg. Rwyf i hefyd yn falch i gyhoeddi y bydd unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc yn gallu gwrando ar drafodaethau’r diwrnod ar y Porth yn fuan diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”

I gau’r gynhadledd cafwyd derbyniad cyhoeddus i lansio rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn llenyddol Llên Cymru. Sefydlwyd y cyfnodolyn yn 1950, a’i ddiben yw cyhoeddi ymchwil academaidd o’r ansawdd uchaf ar lenyddiaeth Gymraeg mewn unrhyw gyfnod. I gyd-fynd â thema’r gynhadledd, mae’r rhifyn hwn o’r cyfnodolyn yn cynnwys erthyglau ar gyfieithu diwylliannol ac amrywiaeth eang cyffrous o bynciau yn yr un maes.