/Cyfrol newydd yn trafod Santes Wrswla a’i Chysylltiadau â Chymru
Cyfrol newydd yn trafod Santes Wrswla a’i Chysylltiadau â Chymru 2018-01-29T07:50:23+00:00

Project Description

Cyfrol newydd yn trafod Santes Wrswla a’i Chysylltiadau â Chymru

Roedd Santes Wrswla yn un o’r seintiau rhyngwladol mwyaf poblogaidd yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ond ychydig o bobl sy’n gwybod am ei chysylltiadau â Chymru a’r honiad ei bod wedi hwylio o Geredigion i Gwlen yn yr Almaen.

Mae cyhoeddiad newydd o’r enw St Ursula and the 11,000 Virgins yn edrych yn fanwl ar hanes a chwlt Santes Wrswla ac yn olrhain datblygiad ei chwedl gan egluro pam iddi fod mor boblogaidd mewn cynifer o wledydd a rhanbarthau gwahanol gan gynnwys Cymru.

Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Prifysgol Cymru ac fe’i golygwyd gan yr Athro Jane Cartwright, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a chaiff yn cael ei lansio’n swyddogol ar gampws PCDDS yn Llambed, ddydd Mercher, Tachwedd 16 am 4pm.

Mae buchedd Wrswla yn chwedl epig sy’n adrodd hanes Wrswla, merch un o frenhinoedd y Brythoniaid, sy’n cytuno i briodi â thywysog paganaidd er mwyn achub teyrnas ei thad. Mae’n gohirio’r briodas er mwyn mynd ar bererindod i Rufain yng Nghwmni 11,000 o wyryfon. Caiff y wyryfon ei hyfforddi’n filwrol gan Wrswla a chyrchant i’r cefnfor. Llwydda Wrswla i droi ei dyweddi’n Gristion a merthryrir y santes a’i gwyryfon yng Nghwlen ar faes waedlyd. Yn y ddeuddegfed ganrif daethpwyd o hyd i fedd Rufeinig anferth a chredid mai creiriau Wrswla a’i chydymdeithion a geid yno.

Fe’i cysylltir ag eglwys Llangwyryfon yng Ngheredigion a chapeli megis Capel y Santesau a Chapel Betws Leucu a gysegrwyd ar enwau’i gwyryfon. Trafodir ei buchedd Gymraeg yn fanwl am y tro cyntaf yn y llyfr hwn sy’n taflu goleuni ar nifer o agweddau ar ei chwlt rhyngwladol, e.e. bucheddau canoloesol, delwau a chreiriau, cerddoriaeth ganoloesol ac yn y blaen. Teithiodd grŵp o ymchwilwyr adnabyddus i Gymru o’r Almaen, Ffrainc, America, Hwngari, Gwlad yr Iâ a Lloegr a gellir darllen ffrwyth eu hymchwil newydd yn y llyfr hwn.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg addaswyd Hystoria Gweryddon yr Almaen o’r Lladin i’r Gymraeg gan Huw Pennant a cheir yr hanes mewn un lawysgrif yn unig yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef Peniarth 182. Roedd Huw Pennant, bardd, clerigwr ac ysgrifydd, yn awyddus i gynhyrchu fersiwn o’i chwedl a fyddai’n ddealladwy i Gymry Cymraeg.

Bydd y testun Cymraeg, a olygwyd ac a gyfieithwyd gan Jane Cartwright, ar gael ar wefan Seintiau yng Nghymru a ddarperir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru y flwyddyn nesaf. Lleolir y prosiect yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a chaiff ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (yr AHRC). Bydd gwefan Seintiau Cymru yn darparu tua 100 o destunau am seintiau lleol a rhyngwladol a bydd modd hefyd weld lluniau o’r llawysgrifau canoloesol gan gynnwys rhai o drysorau’r genedl megis Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Talgarth.

Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o benodau gan ysgolheigion eraill yng Nghymru, er enghraifft bucheddau Saesneg Canol gan William Marx o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chysylltiadau Wrswla a’r urddau milwrol gan Helen Nicholson o Brifysgol Caerdydd.

“Mae Santes Wrswla’n enghraifft brin o santes ryngwladol boblogaidd a ddaeth yn un o’r brodorion,” dywedodd golygydd y gyfrol, yr Athro Cartwright.

“Roedd yn boblogaidd iawn yn Ewrop ac wrth i’r creiriau a ddarganfuwyd yng Nghwlen gael eu cludo i nifer o wledydd eraill, trosglwyddwyd y chwedl amdani hi a’i gwyryfon, gan esblygu ac addasu i amrywiol gyd-destunau wrth iddi ledaenu. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a deithiodd i Gymru o gynifer o wledydd i drafod ac ailystyried cwlt y santes bwysig hon.”

Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw Jane Cartwright. Mae’n Gyfarwyddwr y radd MA Astudiaethau Celtaidd yn y Brifysgol ac yn ymchwilydd ar brosiect ymchwil ar Seintiau Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae’n aelod o’r clwstwr ymchwil ar Fydoedd Hynafol: Pobl o’r Gorffennol yng Nghyfadran y Dyniaethau yn y Drindod Dewi Sant. Awdures nifer o gyfrolau ar fucheddau’r seintiau a hanes Cymru’r Oesoedd Canol yw Jane, er enghraifft Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod: Agweddau ar Wyryfdod a Diweirdeb yng Nghymru’r Oesoedd Canol(Caerdydd, 1999), Feminine Sanctity and Spirituality in Medieval Wales(Caerdydd, 2008) ac mae’n olygydd y cyfrolau Celtic Hagiography and Saints’ Cults (Caerdydd, 2003) a Mary Magdalene and her Sister Martha (Washington, 2013).

Os hoffech ddysgu mwy am y traddodiadau sy’n gysylltiedig â’r Santes Wrswla, y llyfr newydd a’r prosect Seintiau yng Nghymru, mae croeso i chi fynychu digwyddiad a gynhelir yn Llyfrgell y Sylfaenwyr campws Llambed, ddydd Mercher, Tachwedd 16eg am 4yh.

Os ydych yn bwriadu mynychu, gofynnwn i chi gysylltu â Lianne Parker o flaen llaw drwy ebostio l.parker@uwtsd.ac.uk neu drwy ffonio 01570 424951.